Mae ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith pobl ifanc yn hanfodol er mwyn gwarchod y Ddaear. Drwy eirioli dros arferion a pholisïau cynaliadwy, gall pobl ifanc gyfrannu at blaned iachach ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Drwy weithredu, gall pobl ifanc gyfrannu at atebion cynaliadwy, eirioli dros ynni adnewyddadwy, a gwthio am bolisïau sy’n lliniaru dirywiad amgylcheddol.
Pwy sy’n gyfrifol
Bethmaennhw’n eiwneud?
Mae Cymru wedi ymrwymo’n gyfreithiol (drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) i leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2050 gyda thargedau 10 mlynedd a chyllidebau carbon 5 mlynedd yn nodi llwybr at sero net a chynllun ar gyfer Cymru Sero Net. Cytunwyd ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang COP15 ym mis Rhagfyr 2022, gyda tharged cyffredinol i ddiogelu 30% o ardaloedd daearol, dyfroedd mewndirol, ac ardaloedd arfordirol a morol erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd y targed hwn drwy dargedau bioamrywiaeth domestig statudol. Mae wedi ymrwymo i ddiweddaru polisi’r Newid yn yr Hinsawdd, a chodi proffil yr amgylchedd, ynni, cynllunio a thrafnidiaeth yng Nghymru, yn ogystal â sut mae’r rhain yn cyd-fynd â nodau rhyngwladol. Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am hyn.
Bethallwchchi eiwneud?
Mae cynghorau lleol, Senedd Cymru a Senedd y DU i gyd yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd mewn gwahanol ffyrdd. Os ydych chi’n poeni am fater lleol, e.e. afon sy’n gorlifo, neu barcdir lle mae tipio anghyfreithlon yn digwydd, cysylltwch â’r cyngor lleol yn gyntaf. Os ydych chi eisiau ymgyrchu ar fater datganoledig, fel llygredd neu golli ecosystemau, cysylltwch ag un o’r Aelodau lleol o’r Senedd. I lobïo dros fater amgylcheddol ehangach sy’n cynnwys gwledydd eraill yn y DU, canolbwyntiwch ar Senedd y DU. Mae modd rhoi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’
Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru
Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.
Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.
Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Cynghorau Lleol
Mae gan lawer o rannau o’r DU ddwy haen o lywodraeth leol, sef cynghorau sir a chynghorau dosbarth, bwrdeistref neu ddinas. Mae cynghorau sir yn gyfrifol am wasanaethau ar draws sir gyfan gan gynnwys addysg, cynllunio a rheoli gwastraff. Mae cynghorau dosbarth, bwrdeistref a dinas yn gwasanaethu ardal lai o faint ac fel arfer ac maen nhw’n gyfrifol am wasanaethau fel tai, ailgylchu a chasglu sbwriel. Mae cynghorau plwyf, cymuned a thref yn gweithredu ar lefel is na chynghorau dosbarth a bwrdeistref a gallan nhw helpu gyda materion lleol fel darparu rhandiroedd, llochesi bysiau, ac ymgynghori ar gynllunio cymdogaethau. Mae Cymru wedi'i rhannu'n 22 awdurdod unedol, a elwir hefyd yn brif ardaloedd, sy'n gweithredu fel cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (gan ddisodli'r system ddwy haen flaenorol o gynghorau sir a dosbarth).
Senedd Cymru
Mae Senedd Cymru yn gorff sydd wedi’i ethol yn ddemocrataidd sy’n cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’n deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi Cymreig, ac yn goruchwylio gwaith a gwariant Llywodraeth Cymru. Mae’n gwneud hyn drwy ddadleuon, holi gweinidogion, a thrwy waith ymchwiliol ei bwyllgorau. Mae dadleuon yn caniatáu i Aelodau leisio eich pryderon chi yn y Senedd, trafod materion amserol, a phenderfynu ar gyfreithiau newydd. Mae pwyllgorau’n edrych ar waith Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru mewn meysydd datganoledig penodol.
Tŷ’r Cyffredin
Tŷ’r Cyffredin yw’r rhan etholedig o Senedd y Deyrnas Unedig. Gweinidogion yw’r aelodau sydd yn y llywodraeth. Mae pleidiau gwleidyddol sydd ddim yn rhan o’r llywodraeth yn cael eu galw’n wrthbleidiau. Mae’r Llefarydd yn Aelod Seneddol sydd wedi cael ei ethol gan Aelodau Seneddol eraill i fod yn Gadeirydd yn ystod dadleuon.
Tŷ’r Arglwyddi
Mae Tŷ’r Arglwyddi yn rhoi ail farn i Dŷ’r Cyffredin a’r llywodraeth. Prif swyddogaeth Tŷ’r Arglwyddi yw deddfu, gwirio a herio’r llywodraeth ac ymchwilio i bolisi cyhoeddus.
Cofrestrwchibleidleisio
Pleidleisio yw’r weithred o ddewis rhywbeth neu rywun mewn etholiad wedi’i drefnu. Gallwch chi gofrestru i bleidleisio yn 14 oed yng Nghymru a'r Alban (ac yn 16 oed yng ngweddill y DU) sy'n golygu y byddwch chi’n barod i gymryd rhan mewn etholiadau lleol a chyffredinol.
Os ydych chi’n teimlo’n gryf am fater, efallai yr hoffech chi ddechrau neu lofnodi deiseb, naill ai ar wefan Senedd y DU neu ar wefan Senedd Cymru. Gallwch chi hefyd greu deisebau sydd ddim yn rhai seneddol, ar wefannau fel 38 Degrees neu Change.Org.