Ysgogwyr Newid

Cael eich ysbrydoli i wneud newid

Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Mae angen i ni gael gwybodaeth yn uniongyrchol yn hytrach na’n bod ni’n cael ein taflu o’r neilltu neu ei fod yn cael ei hidlo.

Angel Ezeadum

Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Byddwch yn uchelgeisiol a gweithio’n galetach nag unrhyw un arall i’w gyflawni.

Marcus Rashford

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Fy mam a fy nain sy’n bennaf gyfrifol am fy ngwaith ymgyrchu, ac am fy addysgu am y menywod wnaeth baratoi’r ffordd. Rydw i eisiau parhau i wthio eu hetifeddiaeth.

Poppy Stowell-Evans

Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Pan mai’r unig beth y gall pobl ei wneud yw eich gwawdio, mae’n golygu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddadl neu nad oes ganddyn nhw ddim byd arall i’w ddweud.

Greta Thunberg

Pobl sy’n gwneud newid

Ymgyrchu dros gydraddoldeb hiliol yng nghymru

Roedd Angel Ezeadum yn Aelod o Senedd Ieuenctid y DU dros Gaerdydd a chafodd ei hethol yn Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Defnyddiodd ei llwyfan i wneud cyfraniadau effeithiol i drafodion Senedd Ieuenctid Cymru ac i alw am wneud hanesion Pobl Ddu a Phobl o Liw yn rhan orfodol o gwricwlwm ysgolion newydd Cymru.

Ochr yn ochr ag ymgyrchwyr a gyflwynodd ddeiseb i’r Gweinidog Addysg, a gafodd bron i 35,000 o lofnodion ac a gafodd ei thrafod yn y Senedd, helpodd hi i berswadio Llywodraeth Cymru i fynnu’n fwy penodol bod cymunedau amrywiol, yn enwedig straeon pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn rhan orfodol o’r cwricwlwm.

Heddiw, mae gormod o blant du yn colli allan ar hanes pobl ddu yng nghwricwlwm yr ysgol. Yn rhy aml, y tro cyntaf y bydd myfyriwr yn dod i gysylltiad â hanes pobl ddu fydd trwy astudio caethwasiaeth. Yn rhy aml, mae affricaniaid yn cael eu portreadu mewn ysgolion fel pobl anwaraidd a barbaraidd.

Mae ymgyrchu medrus a gwleidyddol graff gan lawer o bobl a sefydliadau, gyda phobl ifanc a phobl â phrofiad uniongyrchol yn cael yr awdurdod a’r cyfle i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, wedi llwyddo i gyfrannu at newid polisi sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn her, oherwydd roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarn yn ei safbwynt tan hynny, ac roedd y pandemig Coronafeirws yn llenwi’r rhan fwyaf o’r agendâu gwleidyddol a’r cyfryngau.


Rhywun sy’n hyrwyddo maeth yn ystod plentyndod

Mae Marcus Rashford, seren pêl-droed Manchester United a Lloegr, wedi mynd y tu hwnt i ffiniau’r cae pêl-droed i ddod yn eiriolwr blaenllaw dros faeth yn ystod plentyndod yn y DU. Cafodd Marcus ei eni a’i fagu yn Wythenshawe, Manceinion, ac mae wedi defnyddio ei brofiadau ei hun wrth dyfu i fyny mewn cartref incwm isel i ymgyrchu’n angerddol dros brydau ysgol am ddim i blant o gefndiroedd difreintiedig.

Ym mis Mehefin 2020, rhoddodd Marcus bwysau ar Lywodraeth y DU i ymestyn ei rhaglen prydau ysgol am ddim dros wyliau’r haf, gan sicrhau bod plant oedd agored i niwed yn parhau i gael cymorth maeth hanfodol yn ystod y pandemig COVID-19. Mae ei ymdrechion di-baid i eirioli wedi taflu goleuni ar dlodi bwyd ac wedi ysgogi sgwrs genedlaethol am bwysigrwydd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau systemig.

Byddwch yn uchelgeisiol a gweithio’n galetach nag unrhyw un arall i’w gyflawni.

Mae ymroddiad Marcus i fynd i’r afael â newyn plant wedi ennill canmoliaeth a chydnabyddiaeth eang iddo, gan gynnwys MBE (Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) am ei wasanaethau i blant agored i niwed yn ystod y pandemig. Er ei fod wedi wynebu beirniadaeth a rhwystrau ar hyd y ffordd, mae Marcus Rashford yn parhau i fod yn gadarn yn ei ymrwymiad i sicrhau tegwch i bob plentyn, waeth beth fo’i gefndir economaidd-gymdeithasol.

Drwy ei lwyfan dylanwadol a’i ymgyrchu diflino, mae Marcus Rashford nid yn unig wedi trawsnewid bywydau llawer o blant ond mae hefyd wedi ysbrydoli ton o undod a thosturi ar draws y DU a thu hwnt.


Dysgu gan fenywod ysbrydoledig

Mae ymgyrchydd ifanc o Gasnewydd yn ymgyrchu dros hawliau menywod a’r amgylchedd, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod gan bawb lais. Mae hi eisiau ehangu lleisiau grwpiau amrywiol a chreu rhywle lle mae pawb yn cael ei glywed.

Fy mam a fy nain sy’n bennaf gyfrifol am fy ngwaith ymgyrchu, ac am fy addysgu am y menywod wnaeth baratoi’r ffordd. Rydw i eisiau parhau i wthio eu hetifeddiaeth.

Yn 2021, ymunodd Poppy Stowell-Evans ag ail-gread o orymdaith heddwch Comin Greenham 1981. I nodi 40 mlynedd ers yr orymdaith hanesyddol, fe wnaeth grŵp o bobl, gan gynnwys menywod Greenham, ddilyn ôl eu traed ar yr hyn a ddisgrifiodd Poppy fel noddfa ffeministaidd. Fe wnaeth hi gwrdd â menywod ysbrydoledig a helpodd hi i ddatblygu ei hyder ei hun. Dywedodd menywod Greenham wrthi eu bod wedi anghytuno ar lawer o bethau ond eu bod ganddyn nhw’r un angerdd ac amcanion. Fe wnaethon nhw ddangos i Poppy sut y gall ysgogi greu newid go iawn.

Mae gan bawb brofiadau bywyd gwahanol a ffyrdd gwahanol o weld y byd; allwn ni ddim datrys problemau nes i ni eu deall.


Grym dros ymgyrchu amgylcheddol

Yn 18 oed, mae Greta Thunberg wedi dod yn eicon byd-eang ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd. Cafodd Greta ei geni yn Sweden yn 2003, a chafodd sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2018 pan ddechreuodd hi, yn 15 oed, beidio â mynd i’r ysgol er mwyn protestio y tu allan i Senedd Sweden, gan fynnu gweithredu cryfach yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Esblygodd ei streic un person yn gyflym i'r ymgyrch Dydd Gwener i'r Dyfodol, gan ysbrydoli miliynau o fyfyrwyr ledled y byd i ymuno â hi mewn streiciau hinsawdd wythnosol.

Greta ThundbergMae ymroddiad diwyro Greta i godi ymwybyddiaeth o’r angen brys am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd wedi ennill iddi nifer o anrhydeddau, gan gynnwys cael ei henwi’n Berson y Flwyddyn cylchgrawn Time yn 2019. Er ei bod yn wynebu beirniadaeth o ran mannau, mae’n parhau i fod yn gadarn yn ei chenhadaeth i ddwyn llywodraethau a chorfforaethau i gyfrif am eu rôl yn gwaethygu’r argyfwng hinsawdd.

Mae areithiau Greta mewn fforymau rhyngwladol, gan gynnwys Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd, wedi ysgogi cynulleidfaoedd a sbarduno arweinwyr i weithredu. Mae ei negeseuon syml ond pwerus yn taro tant gyda phobl o bob oed, gan eu hannog i gydnabod difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd a chymryd camau ystyrlon i fynd i’r afael â hynny. Wrth i Greta Thunberg barhau i eirioli dros gyfiawnder hinsawdd, mae ei heffaith yn atseinio’n fyd-eang, gan ein hatgoffa ni i gyd o’r rôl hanfodol y mae pob unigolyn yn ei chwarae o ran diogelu’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.