Iechyd y Corff a’r Meddwl

Mae pobl ifanc yn wynebu heriau iechyd a phroblemau o ran cael gafael ar ofal iechyd. Mae iselder, gorbryder ac anhwylderau iechyd meddwl eraill ymhlith y prif bethau sy’n achosi salwch ac anableddau i bobl ifanc. Gall pobl ifanc ymgyrchu dros faterion iechyd ac iechyd meddwl er mwyn i bawb gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cymru Iachach – Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ôl adolygiad seneddol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am weithio gyda’i gilydd i greu Cymru iachach, ac mae wedi datblygu strategaeth tymor hir sy’n ceisio mynd i’r afael â materion iechyd y corff a’r meddwl a gweithio tuag at ddyfodol iachach i bobl Cymru.


Beth allwch chi ei wneud?

Gallwch chi siarad am faterion a phryderon sydd gennych chi sy’n ymwneud ag iechyd y corff a’r meddwl, ac mae GIG Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar eu bod wedi ymrwymo i ddiwylliant o godi llais, ac o wrando, dysgu a gwella.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Greta Thunberg