Economi a Chyllid

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar lawer o bobl ifanc. Mae dysgu sut i reoli eu harian a deall yr economi yn galluogi unigolion ifanc i lunio eu dyfodol ariannol. Drwy gymryd rhan mewn trafodaethau economaidd, gallan nhw gyfrannu at bolisïau cynhwysol, twf cynaliadwy, a lleihau anghydraddoldebau.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y gyllideb ar gyfer pob maes y mae’n gyfrifol amdano, yn ogystal â phennu’r cyfraddau ar gyfer trethi datganoledig, sydd yn ei dro yn effeithio ar benderfyniadau polisi cyhoeddus yng Nghymru. Senedd y DU sy’n gyfrifol am bolisi economaidd ehangach y DU. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau economi leol ffyniannus, gan ystyried yr amgylchedd polisi datganoledig ac amgylchedd polisi y DU yn ehangach. Mae Pwyllgor Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol gan gynnwys busnes, datblygu economaidd, masnach ryngwladol a sgiliau.


Beth allwch chi ei wneud?

Mae’r economi a chyllid yn effeithio ar sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd, felly mae’n bwysig edrych ar y penderfyniadau mae llywodraethau’n eu gwneud ar ein rhan a sut mae’r materion hyn yn effeithio arnoch chi wrth i chi dyfu’n oedolyn. Siaradwch am gyfrifoldebau ariannol ac addysgu eich hun drwy ddysgu mwy am gyllid personol, economeg genedlaethol a rhyngwladol, a gwneud dewisiadau ar sail yr hyn sydd orau ar gyfer eich dyfodol.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum