Cydraddoldeb LHDTCRh+

Mae cefnogi hawliau pobl LHDTCRh+ yn sicrhau cynhwysiant a derbyniad. Gall pobl ifanc eirioli dros gydraddoldeb, herio gwahaniaethu, a chreu amgylcheddau lle gall pawb fyw’n ddilys heb ofn, waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Mae Cydraddoldeb LHDTCRh+ yn golygu nad ydyn ni’n gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae ymladd dros Gydraddoldeb LHDTCRh+ yn golygu ein bod ni’n tynnu sylw at unrhyw wahaniaethu sy’n cael ei wynebu, ac yn sicrhau bod polisïau sy’n ymwneud â chydraddoldeb yn cael eu cynnal.


Beth allwch chi ei wneud?

Ledled y byd, mae pobl dan fygythiad am fod yn nhw eu hunain, ac mae hyn yn annerbyniol. Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd yn y DU, mae’n dal yn wir fod llawer o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, rhyngrywiol a cwiar yn wynebu gwahaniaethu a thrais hyd yn oed.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum

Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Marcus Rashford

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Poppy Stowell-Evans

Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Greta Thunberg