Mae addysg yn un o gonglfeini profiadau plant a phobl ifanc. Dylai pobl ifanc deimlo eu bod yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau ar sail pa ddewisiadau addysg a chyllid sydd ar gael iddyn nhw. Gall pobl ifanc hefyd gyfrannu at lunio dyfodol addysg drwy rannu adborth am eu profiadau.
Pwy sy’n gyfrifol
Bethmaennhw’n eiwneud?
Mae addysg yn fater datganoledig yng Nghymru. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am addysg gynradd ac uwchradd. Mae'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (ailenwyd yn Medr bellach), yn weithredol o fis Awst 2024, yn gyfrifol am yr holl addysg ac ymchwil ôl-16 yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar addysg yng Nghymru drwy ei gwaith o gydlynu gydag awdurdodau lleol. Er enghraifft, un ffocws allweddol yw cynyddu nifer y grwpiau blwyddyn ysgol sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050.
Bethallwchchi eiwneud?
Mae addysg yn ganolog i wella bywydau pobl ifanc, ac mae'n bwysig eich bod chi’n gwybod pa opsiynau addysg a gyrfa gwahanol sydd ar gael i chi yn y dyfodol. Gallwch chi ddweud eich dweud am yr addysg rydych chi’n ei chael drwy gymryd rhan mewn cyfleoedd llais y myfyriwr fel cynghorau ysgol, a rhoi adborth i addysgwyr. Gallwch chi awgrymu ffyrdd y gallai addysg weithio’n well i chi drwy gysylltu â chynghorau lleol a’r Senedd. Os oes gennych chi bryderon, syniadau neu gwestiynau sy’n effeithio ar eich ysgol neu goleg, mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i wrando ar eich adborth. Dysgwch pwy sy’n gyfrifol am gymryd rhan yn eich ysgol neu goleg, a pha sianeli mae eich sefydliad addysgol yn eu defnyddio i gael adborth gan bobl ifanc. Os ydych chi eisiau gwneud awgrymiadau neu herio penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Senedd, gallwch chi gysylltu â’r Comisiynydd Plant i gael rhagor o wybodaeth am sut mae gwneud newid, neu gysylltu â’ch Aelod o’r Senedd.
Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru
Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.
Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.
Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.
Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’
Cynghorau Lleol
Mae gan lawer o rannau o’r DU ddwy haen o lywodraeth leol, sef cynghorau sir a chynghorau dosbarth, bwrdeistref neu ddinas. Mae cynghorau sir yn gyfrifol am wasanaethau ar draws sir gyfan gan gynnwys addysg, cynllunio a rheoli gwastraff. Mae cynghorau dosbarth, bwrdeistref a dinas yn gwasanaethu ardal lai o faint ac fel arfer ac maen nhw’n gyfrifol am wasanaethau fel tai, ailgylchu a chasglu sbwriel. Mae cynghorau plwyf, cymuned a thref yn gweithredu ar lefel is na chynghorau dosbarth a bwrdeistref a gallan nhw helpu gyda materion lleol fel darparu rhandiroedd, llochesi bysiau, ac ymgynghori ar gynllunio cymdogaethau.
Senedd Cymru
Mae Senedd Cymru yn gorff sydd wedi’i ethol yn ddemocrataidd sy’n cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’n deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi Cymreig, ac yn goruchwylio gwaith a gwariant Llywodraeth Cymru. Mae’n gwneud hyn drwy ddadleuon, holi gweinidogion, a thrwy waith ymchwiliol ei bwyllgorau. Mae dadleuon yn caniatáu i Aelodau leisio eich pryderon chi yn y Senedd, trafod materion amserol, a phenderfynu ar gyfreithiau newydd. Mae pwyllgorau’n edrych ar waith Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru mewn meysydd datganoledig penodol.
Tŷ’r Cyffredin
Tŷ’r Cyffredin yw’r rhan etholedig o Senedd y Deyrnas Unedig. Gweinidogion yw’r aelodau sydd yn y llywodraeth. Mae pleidiau gwleidyddol sydd ddim yn rhan o’r llywodraeth yn cael eu galw’n wrthbleidiau. Mae’r Llefarydd yn Aelod Seneddol sydd wedi cael ei ethol gan Aelodau Seneddol eraill i fod yn Gadeirydd yn ystod dadleuon.
Tŷ’r Arglwyddi
Mae Tŷ’r Arglwyddi yn rhoi ail farn i Dŷ’r Cyffredin a’r llywodraeth. Prif swyddogaeth Tŷ’r Arglwyddi yw deddfu, gwirio a herio’r llywodraeth ac ymchwilio i bolisi cyhoeddus.
Cofrestrwch i bleidleisio
Pleidleisio yw’r weithred o ddewis rhywbeth neu rywun mewn etholiad wedi’i drefnu. Gallwch chi gofrestru i bleidleisio yn 14 oed yng Nghymru a'r Alban (ac yn 16 oed yng ngweddill y DU) sy'n golygu y byddwch chi’n barod i gymryd rhan mewn etholiadau lleol a chyffredinol.
Os ydych chi’n teimlo’n gryf am fater, efallai yr hoffech chi ddechrau neu lofnodi deiseb, naill ai ar wefan Senedd y DU neu ar wefan Senedd Cymru. Gallwch chi hefyd greu deisebau sydd ddim yn rhai seneddol, ar wefannau fel 38 Degrees neu Change.Org.