Change Makers

Datganoli

Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys pedair gwlad, sef Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, pob un â’i hanes a’i diwylliant ei hun. Mae Senedd y DU yn deddfu mewn meysydd sy’n cael eu hystyried yn hanfodol i’r undeb, fel amddiffyn, yr economi a chysylltiadau rhyngwladol. Yn hanesyddol, San Steffan oedd lleoliad grym canolog y Deyrnas Unedig, drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

Tŷ’r Cyffredin

Tŷ’r Cyffredin yw’r rhan etholedig o Senedd y Deyrnas Unedig. Gweinidogion yw’r aelodau sydd yn y Llywodraeth. Mae pleidiau gwleidyddol sydd ddim yn rhan o’r llywodraeth yn cael eu galw’n wrthbleidiau. Mae’r Llefarydd yn Aelod Seneddol sydd wedi cael ei ethol gan Aelodau Seneddol eraill i fod yn Gadeirydd yn ystod dadleuon.

hcenquiries@parliament.uk
0800 112 4272 (Rhadffôn) neu 020 7219 4272
House of Commons, London, SW1A 0AA

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Tŷ’r Arglwyddi yn rhoi ail farn i Dŷ’r Cyffredin a’r Llywodraeth. Prif swyddogaeth Tŷ’r Arglwyddi yw dadlau, diwygio, a deddfu, gwirio a herio’r Llywodraeth ac ymchwilio i bolisi cyhoeddus.

hlinfo@parliament.uk
0800 223 0855 (Rhadffôn) neu 020 7219 3107
House of Lords, London, SW1A 0PW


Datganoli

Ar ôl 1997, fe wnaeth datganoli greu canolfannau pŵer newydd yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast, drwy drosglwyddo pwerau gwleidyddol a chyfreithiol o Senedd y DU i Senedd Cymru, yn ogystal â Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Er mwyn deall sut i wneud newid, mae’n bwysig gwybod sut mae datganoli’n gweithio, beth yw’r cysylltiadau rhwng y DU a Chymru, a pha sefydliad sy’n gyfrifol am ba faterion gwleidyddol.


Mae’n bwysig nodi bod rhai materion yn rhai byd-eang yn hytrach nag yn rhai lleol. Maen nhw’n effeithio ar bobl mewn llawer o wledydd ac mae angen atebion a gweithredu arnynt ar draws gwledydd. Er enghraifft, mae’r Cenhedloedd Unedig yn disgrifio ei Nodau Datblygu Cynaliadwy fel ceisio mynd i’r afael â’r heriau byd-eang rydyn ni’n eu hwynebu drwy gynnig glasbrint i sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb. Er enghraifft, mae tlodi a newyn yn effeithio ar bobl ym mhob man ac mae eu datrys yn gofyn am weithredu ar draws ffiniau cenedlaethol, gan gynnwys pedair gwlad y DU.

House of Commons and House of Lords logos © UK Parliament. Senedd logo © Senedd Cymru | Welsh Parliament.

Pwy sy'n gwneud beth?

Senedd Cymru

Mae Senedd Cymru yn deddfu dros Gymru ac yn ei chylch, ac mae’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae Llywodraeth Cymru yn llunio polisïau ac yn cynnig cyfreithiau ynghylch materion datganoledig ac yn cynnig y gyllideb flynyddol ar gyfer pob maes y mae’n gyfrifol amdano. Mae pob pŵer wedi’i ddatganoli i Gymru, ar wahân i’r rheini sydd wedi’u cadw’n benodol i Senedd y DU. Dyma’r prif feysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru:

Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
Addysg
Iechyd a gofal cymdeithasol
Priffyrdd a thrafnidiaeth
Tai
Llywodraeth
Yr iaith gymraeg

Senedd y DU

Mae gan lywodraeth a Senedd y DU rolau tebyg i’r Senedd, ond i’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol ac eithrio ar faterion datganoledig. Ni all y Senedd newid cyfreithiau ar faterion o dan reolaeth Senedd y DU. Fodd bynnag, gall Senedd y DU greu deddfau sy’n ymwneud â Chymru, er nad yw fod i wneud hynny heb ganiatâd y Senedd.

Erthylu
Gwerthu a chyflenwi alcohol
Darlledu
Cynhaliaeth plant, pensiynau a diogelwch cymdeithasol
Troseddu a phlismona
Amddiffyn
Rheoleiddio meddygon a deintyddion
Cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol
Ynni
System gyfreithiol cymru a lloegr
Materion tramor a’r ue
Gamblo a thrwyddedu
Mewnfudo
Cymorth cyfreithiol
Meddyginiaethau
Arian, marchnadau ariannol a bancio
Swyddfa’r post
Carchardai
Troseddau traffig ffyrdd

Cynghorau lleol

Mae gan lawer o rannau o’r DU ddwy haen o lywodraeth leol, sef cynghorau sir a chynghorau dosbarth, bwrdeistref neu ddinas. Mae cynghorau sir yn gyfrifol am wasanaethau mewn sir gyfan gan gynnwys addysg, cynllunio a rheoli gwastraff. Mae cynghorau dosbarth, bwrdeistref a dinas yn gwasanaethu ardal lai o faint ac fel arfer ac maen nhw’n gyfrifol am wasanaethau fel tai, ailgylchu a chasglu sbwriel.

Genedigaethau, marwolaethau, a phriodasau
Claddu ac amlosgi
Crwneriaid
Datblygiad economaidd
Addysg (nid addysg uwch)
Yr amgylchedd
Y gwasanaethau tân ac achub
Diogelwch bwyd
Tai
Hamdden
Llyfrgelloedd
Parciau cenedlaethol
Cynllunio
Gwasanaethau cymdeithasol
Trafnidiaeth
Safonau masnach
Gwastraff