Sefwch fel AS

Mae gan unrhyw un dros 18 oed sy’n ddinesydd Prydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad, ac sy’n byw yn y DU, yr hawl i sefyll fel Aelod Seneddol. Gallwch hefyd sefyll i fod yn Aelod o’r Senedd neu’n gynghorydd lleol. Mae sefyll mewn etholiad yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu’n uniongyrchol at y broses ddemocrataidd, llunio polisi cyhoeddus, a chynrychioli buddiannau eu cymunedau. Mae sawl rheswm cryf pam y byddai rhywun yn ystyried sefyll mewn etholiad.


Gwasanaeth cymunedol: Mae sefyll mewn etholiad yn fath o wasanaeth cyhoeddus sy’n caniatáu i bobl gyfrannu at eu cymuned a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl eraill. Mae cynrychiolwyr etholedig yn cael cyfle i fynd i’r afael â phryderon lleol, hyrwyddo prosiectau cymunedol, a chydweithio ag etholwyr i fynd i’r afael â heriau a gwella ansawdd bywyd yn eu hardal.

Twf a datblygiad personol: Gall sefyll mewn etholiad fod yn brofiad trawsnewidiol sy’n cynnig twf personol a chyfleoedd i ddatblygu. Mae ymgyrchu’n gofyn bod ymgeiswyr yn mireinio eu sgiliau cyfathrebu, yn meithrin perthynas ag etholwyr, ac yn datblygu rhinweddau arwain. Ennill neu golli, mae’r profiad o sefyll mewn etholiad yn arfogi unigolion â sgiliau, rhwydweithiau a gwybodaeth werthfawr a all fod o fudd iddyn nhw’n bersonol ac yn broffesiynol.

Dylanwadu ar bolisïau: Drwy sefyll mewn etholiad, gall unigolion helpu i hyrwyddo polisi/materion sy’n bwysig iddyn nhw’n bersonol, i’w cymuned neu i grwpiau ehangach. Gallan nhw geisio dylanwadu ar bolisi mewnol y pleidiau, ac os cân nhw eu hethol gallan nhw chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a hyrwyddo polisi (a deddfwriaeth) i’r cyhoedd.

Cynrychiolaeth amrywiol: Mae cynyddu amrywiaeth ymhlith cynrychiolwyr etholedig yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y llywodraeth yn adlewyrchu amrywiaeth lawn cymdeithas ac yn cynrychioli buddiannau pob dinesydd. Drwy sefyll mewn etholiad, gall unigolion o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys menywod, lleiafrifoedd a grwpiau ymylol, helpu i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn llywodraeth, gan ddod â safbwyntiau a phrofiadau gwahanol i’r bwrdd gwneud penderfyniadau.

Sut i weithredu