Protest heddychlon

Mae protestiadau heddychlon yn gyfreithiol o dan gyfraith y DU a gallwch chi geisio sicrhau newid drwy brotestiadau di-drais a chyfreithiol.


Protestiadau yn erbyn rhyfel: Mae’r DU wedi gweld protestiadau sylweddol yn erbyn rhyfel mewn ymateb i nifer o ymyriadau a gwrthdrawiadau milwrol, gan gynnwys Rhyfel Irac a’r rhyfel yn Afghanistan (2001–2021). Trefnodd Stop the War Coalition, ymhlith grwpiau eraill, protestiadau torfol, ralïau a gorymdeithiau i wrthwynebu cyfranogiad y DU at y gwrthdrawiadau hyn. Er nad wnaeth y protestiadau hyn yn atal y llywodraeth rhag cymryd rhan yn y rhyfeloedd hyn, fe wnaethon nhw ysgogi gwrthwynebiad cyhoeddus, dylanwadu ar drafodaethau cyhoeddus, a dylanwadu ar ddadleuon gwleidyddol am benderfyniadau polisi tramor.

Y Mudiad Hawliau Sifil: Wedi’i ysbrydoli gan y Mudiad Hawliau Sifil Americanaidd, trefnodd ymgyrchwyr yn y DU brotestiadau heddychlon i herio gwahaniaethu ac anghydraddoldeb hiliol. Bu Boicot Bysiau Bryste ym 1963, dan arweiniad y Bristol West Indian Parents and Friends Association, yn llwyddiannus yn pwyso ar y Bristol Omnibus Company i roi terfyn ar ei arferion cyflogaeth gwahaniaethol. Yn ogystal, roedd Boicot Bysiau Bryste 1963 a Deddf Cysylltiadau Hil 1965 yn ddigwyddiadau allweddol yn y frwydr dros gydraddoldeb hiliol yn y DU, gan dynnu sylw at bŵer gwrthwynebiad di-drais i sicrhau newid gwleidyddol.

Ymgyrchu ar y newid yn yr hinsawdd: Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r DU wedi gweld cynnydd mewn ymgyrchu ar y newid yn yr hinsawdd, gyda grwpiau fel Gwrthryfel Difodiant Cymru yn trefnu protestiadau heddychlon ar raddfa fawr a gweithredoedd o anufudd-dod sifil i fynnu gweithredu brys ar y newid yn yr hinsawdd. Mae’r protestiadau hyn wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r argyfwng hinsawdd, gan roi pwysau ar y rheini sy’n llunio polisïau i fabwysiadu polisïau amgylcheddol mwy uchelgeisiol, a sbarduno llywodraethau lleol a chenedlaethol i ddatgan argyfyngau hinsawdd.

Mudiad y bleidlais i fenywod: Yn ystod yr ymgyrch dros bleidlais i fenywod ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif gwelwyd nifer o brotestiadau, gorymdeithiau a protestiadau heddychlon ar draws y DU. Fe wnaeth ymgyrchwyr drefnu ralïau, streiciau newyn, a thactegau anufudd-dod sifil di-drais i fynnu hawliau pleidleisio i fenywod. Fe wnaeth y protestiadau heddychlon hyn (ochr yn ochr, dylid nodi, gydag ymgyrchu mwy radical neu filwriaethus) godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn ag anghyfiawnder difreinio menywod a rhoi pwysau ar y llywodraeth i roi hawliau pleidleisio cyfyngedig i fenywod yn 1918 gyda Deddf Cynrychiolaeth y Bobl. Llwyddwyd i sicrhau pleidlais lawn i fenywod dros 21 oed yn 1928.

Sut i weithredu