Gweithrediaeth economaidd
Gallwch chi ddefnyddio eich grym economaidd i wneud newid drwy foicotio cwmnïau a sefydliadau i roi pwysau arnyn nhw i newid eu hymddygiad, neu wobrwyo cwmnïau a sefydliadau drwy nawdd a chyfryngau cymdeithasol cadarnhaol.
Mae boicotio, a gwneud dewisiadau am eich prynwriaeth, beth rydych chi’n ei brynu a ble rydych chi’n rhoi eich arian, yn ffyrdd pwerus o ddadlau dros newid a rhoi eich arian ar eich gair. Gwariwch eich ceiniogau’n ddoeth ac annog pobl eraill i wneud yr un fath.
Mae ymgyrchu economaidd, a elwir hefyd yn brotest economaidd neu’n ymgyrchu gan ddefnyddwyr, yn cyfeirio at weithredoedd bwriadol gan unigolion, sefydliadau neu gymunedau i ddylanwadu ar newid gwleidyddol drwy ddulliau economaidd. Mae'r math hwn o ymgyrchu yn defnyddio pŵer economaidd i fynd i'r afael â materion cymdeithasol a gwleidyddol, gan dargedu corfforaethau, llywodraethau neu ddiwydiannau penodol yn aml. Mae ymgyrchu economaidd yn cwmpasu ystod eang o dactegau, gan gynnwys boicotiau, ymgyrchoedd gwaredu, ymgyrchu gan gyfranddalwyr, a phrynwriaeth foesegol.
Canlyniadau economaidd
Un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol y gall ymgyrchu economaidd effeithio ar newid gwleidyddol yw trwy dargedu buddiannau ariannol sefydliadau neu endidau sy'n cyfrannu at neu'n parhau arferion niweidiol. Er enghraifft, gall boicotiau ac ymgyrchoedd gwaredu roi pwysau ar gwmnïau i newid eu polisïau neu eu harferion sy’n ymwneud â hawliau llafur, cynaliadwyedd amgylcheddol, neu hawliau dynol. Drwy atal cymorth ariannol, gall ymgyrchwyr gymell corfforaethau i fabwysiadu ymddygiad sy’n fwy cyfrifol yn gymdeithasol neu wynebu canlyniadau economaidd.