Creu deiseb

Os ydych chi’n teimlo’n gryf am fater, efallai yr hoffech chi ddechrau neu lofnodi deiseb, naill ai ar wefan Senedd y DU neu ar wefan Senedd Cymru. Gallwch chi hefyd greu deisebau sydd ddim yn rhai seneddol, ar wefannau fel 38 Degrees neu Change.org.


Mae deiseb yn ei hanfod yn gais ysgrifenedig ffurfiol wedi’i lofnodi gan un neu ragor o bobl (ond fel arfer llawer) sy’n apelio i’r rheini sydd mewn grym i wneud newid. Mae deisebau yn gwneud gwahaniaeth go iawn, does dim modd eu hanwybyddu’n hawdd ac mewn perthynas â deisebau Seneddol y DU a Chymru mae’n rhaid ymateb iddyn nhw ar ôl iddyn nhw gyrraedd nifer penodol o lofnodwyr.

Mae deisebau’n arf hanfodol i bobl ifanc eirioli dros newid gwleidyddol drwy grynhoi cefnogaeth y cyhoedd y tu ôl i faterion neu achosion penodol. Boed ar ffurf deisebau papur traddodiadol neu lwyfannau digidol fel Change.org, mae deisebau’n galluogi unigolion i fynegi eu pryderon, mynnu gweithredu gan y rhai sy’n creu polisïau, a dangos ehangder teimladau’r cyhoedd ar faterion penodol.

Mae deisebau yn dangos cefnogaeth y cyhoedd i achos penodol neu i newid polisi. Pan fydd deisebau’n cael eu cyflwyno i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, maen nhw’n arf eirioli pwerus, sy’n dangos dyfnder ac ehangder y gefnogaeth ar lawr gwlad y tu ôl i fater penodol. Efallai y bydd swyddogion etholedig yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ymateb i ddeisebau, naill ai drwy weithredu newidiadau polisi, cychwyn camau deddfwriaethol, neu fynd i’r afael â phryderon drwy ddulliau eraill.

Er nad yw deisebau ar eu pen eu hunain yn gwarantu newid gwleidyddol, maent nhw’n fan cychwyn hollbwysig ar gyfer ymdrechion eirioli, gan roi ffordd i ddinasyddion leisio eu pryderon, dwyn arweinwyr i gyfrif, a sbarduno cynnydd ystyrlon ar faterion pwysig.

Sut i weithredu