Cofrestrwch i bleidleisio
Pleidleisio yw’r weithred o ddewis rhywbeth neu rywun mewn etholiad wedi’i drefnu. Gallwch chi gofrestru i bleidleisio yn 14 oed yng Nghymru a'r Alban (ac yn 16 oed yng ngweddill y DU) sy'n golygu y byddwch chi’n barod i gymryd rhan mewn etholiadau lleol a chyffredinol.
Mae pleidleisio yn hawl a chyfrifoldeb sylfaenol mewn cymdeithas ddemocrataidd. Mae cofrestru i bleidleisio a chymryd rhan mewn etholiadau yn galluogi unigolion i arfer eu hawliau democrataidd drwy fod a llais yn y broses o ddewis cynrychiolwyr a chyfeiriad polisïau’r llywodraeth. Drwy fwrw pleidlais, mae pobl yn cyfrannu at y broses ddemocrataidd ac yn helpu i lunio canlyniad etholiadau, gan sicrhau bod penderfyniadau’r llywodraeth yn adlewyrchu ewyllys y bobl.
Mae pleidleisio’n gadael i bobl ddewis cynrychiolwyr a fydd yn eirioli dros eu buddiannau a’u pryderon yn y llywodraeth. Mae swyddogion etholedig yn atebol i’r etholwyr, ac mae pleidleisio’n darparu mecanwaith ar gyfer eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd a’u penderfyniadau. Drwy gymryd rhan mewn etholiadau, mae pleidleiswyr yn cael y cyfle i ddylanwadu ar gyfansoddiad y llywodraeth a sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau’r boblogaeth.