Gallwch chi godi ymwybyddiaeth drwy gelf a chrefft, gan ddefnyddio creadigaethau gweledol i hyrwyddo achos gwleidyddol neu gymdeithasol. Mae modd tynnu sylw at anghyfiawnderau cymdeithasol ac achosion gwleidyddol drwy berfformiadau cerddorol a geiriau caneuon.
Pleidleisio yw’r weithred o ddewis rhywbeth neu rywun mewn etholiad wedi’i drefnu. Gallwch chi gofrestru i bleidleisio yn 14 oed yng Nghymru a'r Alban (ac yn 16 oed yng ngweddill y DU) sy'n golygu y byddwch chi’n barod i gymryd rhan mewn etholiadau lleol a chyffredinol.
Os ydych chi’n teimlo’n gryf am fater, efallai yr hoffech chi ddechrau neu lofnodi deiseb, naill ai ar wefan Senedd y DU neu ar wefan Senedd Cymru. Gallwch chi hefyd greu deisebau sydd ddim yn rhai seneddol, ar wefannau fel 38 Degrees neu Change.Org.
Mae gwneud eich fideos eich hun a’u darlledu ar wefannau fel YouTube yn ddewis hygyrch arall yn lle darlledu traddodiadol.
Gallwch chi ddefnyddio eich grym economaidd i wneud newid drwy foicotio cwmnïau a sefydliadau i roi pwysau arnyn nhw i newid eu hymddygiad, neu wobrwyo cwmnïau a sefydliadau drwy nawdd a chyfryngau cymdeithasol cadarnhaol.
Mae lobïo’n rhan bwysig o wleidyddiaeth, sef yr ymgais gyfreithiol i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau gwleidyddol, fel Aelodau Seneddol a gweinidogion y llywodraeth. Gall unigolion, grwpiau eirioli/grwpiau diddordeb arbennig, a lobïwyr proffesiynol ddylanwadu ar gynrychiolwyr etholedig drwy lobïo.
Yn y rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol mae adrannau ieuenctid sy’n delio â’r materion sydd fwyaf perthnasol i chi.
Mae protestiadau heddychlon yn gyfreithiol o dan gyfraith y DU a gallwch chi geisio sicrhau newid drwy brotestiadau di-drais a chyfreithiol.
Mae gan unrhyw un dros 18 oed sy’n ddinesydd Prydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad, ac sy’n byw yn y DU, yr hawl i sefyll fel Aelod Seneddol. Gallwch hefyd sefyll i fod yn Aelod o’r Senedd neu’n gynghorydd lleol. Mae sefyll mewn etholiad yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu’n uniongyrchol at y broses ddemocrataidd, llunio polisi cyhoeddus, a chynrychioli buddiannau eu cymunedau. Mae sawl rheswm cryf pam y byddai rhywun yn ystyried sefyll mewn etholiad.
Mae ysgrifennu a chyhoeddi yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio newid gwleidyddol yn y DU drwy lywio trafodaethau cyhoeddus, dylanwadu ar farn y cyhoedd, a dwyn pŵer i gyfrif. Defnyddiwch flogiau, llyfrau, newyddiaduraeth, barddoniaeth, adroddiadau, neu ysgrifennu ar y sianeli cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
Mae’r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol yn cynnal sesiynau rheolaidd o’r enw cymorthfeydd lle maen nhw’n cwrdd ag etholwyr i drafod materion sy’n peri pryder wyneb yn wyneb neu ar-lein. Gall Aelodau Seneddol hefyd ofyn am amser ar gyfer dadleuon ar faterion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gallwch chi hefyd ofyn i Aelodau Seneddol (ac Arglwyddi) gefnogi eich ymgyrch drwy ofyn iddyn nhw gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig i adrannau'r llywodraeth a gofyn cwestiynau yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae Tŷ’r Arglwyddi yn rhoi ail farn i Dŷ’r Cyffredin a’r Llywodraeth. Prif swyddogaeth Tŷ’r Arglwyddi yw dadlau, diwygio, a deddfu, gwirio a herio’r Llywodraeth ac ymchwilio i bolisi cyhoeddus. Gallwch chi gysylltu ag unrhyw aelod o Dŷ’r Arglwyddi neu chwilio am y meysydd y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw.
Mae trigolion Cymru yn cael eu cynrychioli gan un Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli eu hardal leol a phedwar arall sy’n cynrychioli eu rhanbarth. Mae Aelodau o’r Senedd yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd a gallan nhw godi materion. Mae modd cysylltu â nhw drwy e-bost, llythyr, ffôn a’r cyfryngau cymdeithasol. Gall Aelodau ofyn cwestiwn i Weinidog—gan gynnwys y Prif Weinidog—yn ystod cyfarfodydd y Senedd a sesiynau craffu. Gallan nhw hefyd ofyn cwestiynau ysgrifenedig, gwneud pwyntiau yn ystod dadleuon, codi materion mewn cyfarfodydd pwyllgor, neu ysgrifennu’n uniongyrchol at y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Efallai mai’r ffordd orau o ddelio â’r mater rydych chi am ei newid yw ar y lefel leol, drwy weithio gyda’ch cynghorwyr etholedig lleol. Mae cynghorwyr yn cynrychioli eu cymuned leol, yn datblygu ac yn adolygu polisi’r cyngor, ac yn craffu ar benderfyniadau.
Yn Senedd y DU, mae Grwpiau Seneddol Hollbleidiol yn grwpiau trawsbleidiol, anffurfiol a ffurfiwyd gan Aelodau Seneddol ac aelodau o Dŷ’r Arglwyddi sy’n rhannu diddordeb cyffredin. Er nad ydyn nhw’n bwyllgorau seneddol swyddogol, gall y grwpiau hyn weithiau fod yn ddylanwadol oherwydd nad yw eu hagwedd at faterion yn glynu wrth wleidyddiaeth plaid. Os yw ffocws grŵp yn cyd-fynd â’ch ymgyrch, gallech chi gysylltu ag aelodau i ofyn iddyn nhw am gymorth. Gall aelodau o’r Senedd sefydlu grwpiau trawsbleidiol sy’n ffordd wych i grwpiau diddordeb a chyrff ymgyrchu siarad yn uniongyrchol ag Aelodau o’r Senedd i drafod materion polisi.
Yn Senedd y DU, mae Pwyllgorau Dethol yn ymchwilio i faterion sy'n effeithio ar y llywodraeth a'r cyhoedd. Maen nhw’n aml yn defnyddio arolygon ar-lein a cheisiadau am dystiolaeth. Mae Pwyllgorau’r Senedd yn chwarae rôl debyg gan archwilio deddfwriaeth arfaethedig a chraffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru.